1 Da y llvniwyd Duw dull iawnwedd nef
2 dwyfron mab noeth Duw fry
an medd o nef
3 Rhoed yn lew mewn tabl newydd
4 Ailvn wawr ar loywon wydd
5 Er dangos iw evrglos ef
6 Y devddeg oll ar dioddef
7 Grasvs yw ar groes y sydd
8 Y dioddefai duw ddofydd
11 da y llvniwyd Iesv lwyd lon
12 O ddysc abl ai ddiscyblon
13 Tyfiad agwrdd twf digabl
14 Tri ar ddeg pand teg y Tabl
15 [130v] duw ei hvn sy'n y kanawl
16 delw fwyn da dyly fawl
17 Ar devddeg lawendeg lv
18 A roswyd ynghylch Iesv
19 Chwech o ran ar bob hanner
20 Devan oll amgylch duw ner
21 Ar yr hanner myner mwyn
22 Deav iddo duw addwyn
23 Y mae Pedr da y gwyr edrych
24 Ac Ievan wiw amcan wych
25 A Phylib orevwib ras
26 Gwyndroed gyda gwiw Andras
27 Iago hael hoywgv hylwydd
28 A Sain Simon roddion rwydd
29 lliw avr ar y llaw arall
30 Ir Arglwydd cain hylwydd call
31 Y mae Pawl weddawl wiwddoeth
32 A thomas gyweithas goeth
33 Mathew a bair i'm wythwawd
34 Barthlomevs weddvs wawd
35 Moethvs lew mathias lan
36 Gwiw fuchedd Iaco fychan
37 [131r] Sain Svd o fewn sens hoywdeg
38 llyna 'ntwy y llvniav teg
39 llawn o rad ynt pellynt pwyll
40 lle y doded mewn lliw didwyll
41 Ystyr dyn ystoria deg
42 Y dydd a roedd i'r devddeg
43 I gerdded byd gyd ag ef
44 kain deddfawl cyn dioddef
45 Gwedy r loes ar y groes grog
46 A gafas Christ ai gyfog
47 Ai farw nid oedd oferedd
48 hefyd ac o'r byd i'r bedd
49 Pan gyfodes yr Iesv
50 Yn gwir gar or ddayar ddv
51 dvg yn i blaid llygaid llvs / nid rhaid rhvs
52 Y devddeg anrhydeddvs
53 Mab Mair yw'r gair o gariad
54 Gorescyn dyddyn i dad
+1 Gair cariad yw or gadair Vet. mae'n
geidwad mewn y gadair
+2 y mab rhad a gad or gair
+3 duw fo'n porth a'n cynhorthwy
+4 Amen ac nid rhaid i m mwy
D' ap Glm'